Y daith i Bira.

21 o Fehefin

Mi oni wedi darllen ar riw fforwm ar y we fod y siwrna i Bira, y pentref bach pysgota cysglud ar y pwynt fwyaf dwyreiniol o de Sulwasei, yn siwrna a hanner. Ddim yn unig gan fod y pentra bach 5-6 awr o Makassar, ond oherwydd y aros ma’n rhaid gneud i ddisgwyl i’r car lewni cyn gadael.

Efo gobaith ffwl y fysa hyn yn medru cael ei osgoi os swni’n mynd yno digon buan, fe ges i daxi o fy hostel i’r safle gadal am 6.30 yn y bore. Mi oedd y ddinas wedi hen ddeffro, ag wrth i fi droi fewn i’r maes parcio mi redodd hogyn ifanc mewn crys t coch bler a trwsus tri chwartar at y ffenest yn gweiddi, ‘Bira?. Ffan-dab-i-dosi medda fi yn cefn fy mhen, ath ym mhac i’n syth o un car i’r llall a’r hogyn crys-goch yn deud “you wait, 15 more minutes, just wait to fill the car”, “you go with him too, Canadian” medda fo’n pwyntio at ddyn bach tennau, efo gwallt llwyd a sbecdols Woody Allen.

Tair awr a hannar yn diweddarach, mi oni a Robin, (70, o Ganada, wedi emegratio o Lundain pan oddo’n 22, wedi ymddeol ond yn arfarf bod yn Gynhyrchydd teledu i’r corff sy’n cyfatab i’r BBC yn Canada) wedi cael sgwrs faith am bob bwnc dan haul- ag mi oedd o’n mor braf cael siarad mewn brawddegau llawn, am byncia cymleth yn Saesneg am y tro cyntaf mewn 26 diwrnod!

Am 10.30am, a pawb yn dechrau crafu eu gliniau eisiau gadael, mi drodd yna dri person arall fyny eisiau teithio yr un ffordd… gyda’r car yn llawn- dyma ni’n dechra am Bira. Mi oedd yna dri peth peculiar am y car ‘ma, yn gynta- odd y windscreen yn cael ei ddal efo’i gilydd gan sdribedi o gaffa tape, yn ail- doedd neb efo belt- oedd yn eitha niwsans gan fod y seti yn riw blastic du llithryg felly efo bob brêc odda ti’n sleidio riw fodfadd neu ddwy mlaen- sy’n arwain at y trydydd peth- cefn y gadair gannol… doedd hi ddim yn clcio mewn i’w lle, felly pan oddo’n brecio yn galad odd cefn y gadair yn dilyn y dair ohona ni odd yn eistedd arni ‘mlaen! Wrth adal y ddinas swnllyd, brysur, mi nath y drefiar bigo tri person arall i fyny…. Ag o’r diwedd odd y car yn llawn go iawn, 8 oedeolyn, un plentyn a un pysgodyn mewn bag plastic mewn car i 6 yn bomio mynd am Bira a’r dreifar yn smocio ffwl-pelt.

Mi gafo ni hwyl ar y siwrna, mi oni’n eistedd wrth yml dwy ddynes yn eu chwedegau amwni- pawb mewn hwyliau da gan eu bod ar y ffordd adref neu at deulu i ddathlu Ramadan. Caceni ar liniau a bagiau pawb wedi chwyddo efo anrhegion yn cefn y car. Mae’n ryfeddol faint o sgwrs ma’n bosib cael heb rannu yr un iaith- riw ddealltwrtiaeth. Fel pan natha ni sdopio am ginio mewn riw stondin fach llychlud ar ochr y ffordd, a mi es i a un o’r merched i chwylio am doilet. Doedd y drws ddim yn cau yn iawn, ag heb ddeud gair dim ond codi eiliau, mi oni yn dal y drws iddi hi gael pi-pi, a hitha’n gneud i fi. Côd universal y chwaroliaeth- fel bod allan ar nos Sadwrn yn dre.

Rhwng pendwmpian a syllu ar y byd yn mynd heibio, mi gyraeddo ni’r môr. Riw ddwy awr a hanner wedyn mi odda ni’n dal i yrru. Yn dreifio heibio pentrefi a threfi bach a mosgiau mawr yn eu cannol nhw, heibio ffermydd a un pentra oedd yn llawn o filwyr a heddlu yn amlwg fod rhywbeth wedi digwydd, ymlaen, ymlaen, ymlaen- nes cyraedd Bira, bron i 12 awr ers fi ddeffro yn Makassar.

P1190597.JPG

Mi oedd camu allan o’r car i glywed a arogli awel y môr yn gneud y siwrne faith werth o. Mi ges i’r traeth i fi fy hun y noson gyntaf, yn gwylio cwpwl o blant lleol yn hel cregin a’r haul yn toddi tu ôl y bryniau coediog. Fama dwi fod, ddim mewn dinas- amser i roid fy mhac i lawr dros wyl yr Ramdan, arafu i amser y pentref a dogfennu bywydau syml y sawl sy’n byw ‘ma.

P1190601.JPG

2 thoughts on “Y daith i Bira.

Leave a comment