Coed, Cyrn a beddi mewn hen greigiau.

Dwi yma yn Tana Toraja, yn ucheldiroedd De Sulwasei. Mi wnes i’r daith ddeg awr o’r brifddinas ar fws dros nos- a deffro i olygfaedd gwyllt a godidog o fynyddoedd a chlogwyni dramatig wedi eu gwisgo gan goedwigoedd gwyrdd a caeau reis. A’n swatio ym musg y coed yn ngesieiliau’r bryniau- tai traddodiadol anghygoel, y tô fel cyrn byffalo a’r adeilad yn sefyll ar bedair coes- y pren wedi ei garfion grefftus. Fel croesi’r ffin o Loegr i’r Alban, mi oni’n ymwybodol yn syth fy mod i mewn lle gwahanol, mewn lle sy’n sicr a balch o fodolaeth ei hun.

P1190844.JPG

P1200012.JPG

Mi warchododd y bryniau’r diwylliant yma am ganrifoedd- diwylliant a oedd wedi ffynnu mor gryf fel na fedrodd yr Iseldirwyr ei lawn dewi pan orymdeithio’n nhw yma dros gan mynedd nol efo’i cenhadon a’i dwylo blewog. Cyn i Gristnogaeth fynnu ei le, (drwy drais, ofn a llwgwobrwyo) mi oedd y bobl gynhenid yn ‘animsits’ ac yn addoli nifer o dduwiau bydol- duwiau oedd yn bodoli yn y byd naturiol- mewn coed a chreigiau. Dodda nhw ddim yn delweddu ei duwiau ond mi odda nhw’n credu y buasant yn edrych fel anifeiliaid gwyllt (fel y ‘diafol’, medd Daud fy ngeid i- nath neud i fi feddwl am dduwiau Siapan, sydd hefyd yn edrych yn reit ddieflig, coch a efo cyrn… nath neud fi feddwl eto wedyn- tybad os ydi’r diafol cristnogol wedi ei fodelu ar dduwiau crefyddau erill?) O beth dwi’n deallt am gredoau’r animist, mi oedda nhw’n gwled y byd a’r goedwig fel lle hudol, yn addoli’r pethau naturiol- dwr, coed, haul (patrymau o’r byd naturiol sydd yn ysbrydoli’r cerfiadau ar y tai)- ac wedi ymgolli’n llwyr efo marwolaeth.

P1200622.JPG

Yr obsesiwn yma efo marwolaeth ydi’r prif beth sydd wedi goroesi’r can mlynedd ers i’r Iseldirwyr orfodi eu crefydd yma- ond er mai dim ond 2% sydd yn datgan yn gyhoeddus eu bod yn animist yma heddiw, ma’n hollol amlwg fod yr hen ffordd o weld y byd heb ei golli’n llwyr- ac mai’r marw sy’n cadw’r hen draddodiadau’n fyw.

 

P1200281.JPG

Dwi wedi syllu marwolaeth yn ei lygaid fwy na unwaith yn y tridiau dywethaf, ag mewn mwy na un ffordd. O’r sgerbydau a’r penglogau yn ogof Tampang Allo i’r goeden yn Kambira lle tan y 70au mi oedd babanod yn cael ei claddu yn y goeden, yn sefyll ar ei traed gan fod yr animist yn credu y bydd y plentyn wedyn yn tyfu efo’r goeden, i feddi mewn creigiau- hynafol a modern (hyd heddiw, ma meirw Toraja yn cael ei claddu mewn creigiau. Ma na greigiau cyhoeddus, ond ma teuleuoedd hefyd yn cael ei claddu yn y creigiau sydd ar dir y teulu, wedi ei gadael arol gan ffrwydriad volcanic 10,000 o flynyddoedd nôl) – ag i brofi’r marw yn llythrennol- yn yr angladd… sydd angen blog ei hun i drio disgrifio’r diwrnod mewn ffordd sydd yn deg efo’r traddodiad… ond RHYBUDD- mi fyddo’n waedlyd!

P1200603.JPG

Ond fel oni’n crybwyll yn y blog cynt- ma’r hen ffordd o ffermio wedi parhau yma dros y canrifoedd hefyd, a’r caeau reis yr run fath ag oedda nhw pum cant o flynyddoedd nol. Mae’r goedwig dal i sefyll yn gryf , y balans rhwng amithyddiaeth a’r goedwig wedi parhau- er fod bywyd gwyllt y goedwig wedi profi ffawd gwahanol, wrth i boblogaeth yr ardal dyfu- a’u blas nhw am fwncwn hefyd… Mi oni’n sioedig o glywed hyn- ond dyna’r realiti yn anffodus.

Mi wnaeth yr Iseldirwyr gyflwyno coffi i’r ardal hefyd, masnach sydd yn ffynnu heddiw- ond reis ydi’r prif gyflogydd o bell ffordd.

Felly, ma teithio yma i wlad y coffi, reis a marwolaeth wedi bod yn agoriad llygaid ag yn flas ar rym diwylliant nad ydw i wedi brofi nunlla arall yn Indonesia (ag o feddwl am y peth, nunlla arall yn y byd). Mae’n wyrth fod y ffyrdd hynafol ma wedi goroesi’r degawdau a’r cenedlaethau- ag oherwydd y tarddodiad a’r teimlad o berthyn i’r ardal a’i diwylliant- bod y tir hefyd wedi aros yn nwylo y bobl leol.

P1200048.JPG

Yn y blog nesa- nai son am yr angladd, ei credoa nhw ag am hogla perfedd mochyn sydd wedi bod yn eistedd yn yr haul a hanner awr….

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s