Toraja: Lle ma’r diwylliant yn dirgrynnu.

Mi ydwi wedi cyraedd rhan o Indoesia lle ma’r hen ddiwyllant yn dirgrynnu drwy weithiannau’r pentrefi i mewn i’r trefi ag i fywyd bob dydd y bobl. Am y tro cyntaf, wedi pum wythnos o deithio- dwi’n cyfafod bobl sydd yn uniaethu fel ‘Torajan’. Ddim ‘Indonesian’. Ma hyn yn dod fel chwa o awyr iach, ag dwi’n grediniol ei fod o’n gannolog i’r rheswm pam fod yr hen draddodiadau dal yn fyw yma- ar tir dal yn cael ei ffermio yn y ffordd gyntefig, gan deuleoedd lleol.

P1200032.JPG

Fel merch o ‘Ogledd Orllewin Cymru’, (fel y byddai’n deud, gan fod y ‘gogledd’ a’r ‘gorllewin’ yn bwysig!!) mi oddo’n taro fi’n rhyfedd fod pawb oni’n holi ‘what do you identify as?’, yn dweud ‘Indoensian’. O’r pentrefi gwledig yn gogledd Aceh, i’r trefi prysur yn Kalimantan i’r metrapolis dinesig yn Makassar- ‘Indoensian’. ‘Really?’ mi faswn i’n holi. Mae’r term ‘Indonesian’ yn cwmpasu 17,000 o ynysoedd, canoedd o ieithoedd, pedwar prif grefydd a degau o hiliau gwahanol- ma uniaethu fel ‘Indonesian’ yn dy doddi di’n un enaid o 2.756 miliwn o bobl!

Mi wnaeth Suharto (a oedd yn brifwenidog am 31 o flynyddoedd rhwng 67’-98’)- a’i ddelfryd o ‘One Land, One Language, One Nation’ , weithio- dwi’n ama ma’i dyma’r prif beth mae’r plant yn gadael yr ysgol yn gredu. Ond credaf ma’i dyma lle ma’r wlad yn colli ei hunaniaeth- drwy drio creu un hunaniaeth. Un hunaniaeth wishi-washi, sy’n cynnwys pawb ond eto’n cynnwys neb. Does na ddim lle i hen hen greodau’r holl dreibiau yn yr UN Indoneisa yma.

Mae’r syniad o ‘un Indoesia’ yn ymdrech i uno cenedl oedd a sydd dal mor amrywiol ‘na Ewrop ag Affrica efo’i gilydd. Ag felly er mwyn gwneud hyny mi oedd rhaid gwneud pawb yn debycach. Gwneud pawb i berthyn i ‘syniad’ yn hytrach na ‘lle’. A rwan dwi’n edrych nôl ar y tir sydd wedi ei ddinistrio yn y degawdau dywethf argyfer planhigfeydd Palm Oil mewn ffordd wahanol… dwi’n sylweddoli fod y syniad yma o fod yn ‘un indoensia’ yn gwneud i bobl Sumatra fod fwy tebygol o ildio ei tir, oherwydd tydy nhw ddim mor glwm i’r tir na fuasa nhw wedi bod ganrif yn gynt. Mi natha ‘na sawl yn Sumatra ddweud wrtha i ‘it’s worse in Kalimantan’, ag yn Kalimantan, ‘o it’s much worse in Sumatra’, yn chware lawr y dinistr, bron fel petan nhw’n teimlo’n euog gan fod ynys arall yn ei chael hi’n waeth. Mae’r cysylltiad rhwng y bobl a’i hardal leol wedi ei dori, a’i cysylltiad nhw efo credoau ei cyn-deidiau hefyd- sydd wedi gwneud y tir golli ei hynodrwydd.

P1190839.JPG

Ddoth hyn ddim ond yn amlwg i fi wedi i fi deithio yma- i Tana Toraja, ganoedd o filltiroedd o unrhyw goedan Balmwydd. Ond mae bod yma wedi bod fel dal drych i orffenol Indoneisa, cyn yr Iseldirwyr a’r Siapanewyr- a’r coloneiddwr presenol (Palm Oil). I gyfnod lle oedd na dduiwau bydol a threibiau gwyllt yn byw ar yr tir ‘ma- pan mai’ Nusantara dim Indonesia oedd enw’r casgliad eang o ynysoedd a pan oedd lladd moch a buffalos wrth y degau mewn angladdau yn hollol arferol… o hangon, ma nhw dal i wneud hyny yma heddiw….

P1200264.JPG

Yn y blog nesaf- mi wnai lai o fwydro am sut dwi’n meddwl bod bobl y wlad ma wedi colli eu perthynas â’r tir oherwydd eu bod nhw’n brainwashed gan regime Suharto a’i ‘un cendel’ (sydd yn gyrru ias, ‘Britain first’ brexitaidd lawr fy ngwar i) a ysgrifennu am beth yn union sydd mor unigryw a nodweddiadol am y lle hudol yma yng nghanol y mynyddoedd yn de Sulwasei!!

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s