Yr Angladd

Mae Animists yn credu fod bob dim naturiol efo ysbryd neu enaid, yn cynnwys anifeiliaid, planhigion, afonydd, mynyddoedd, sêr, y lleuad, a'r haul. Maent yn credu fod bob peth yn medru bod o gymorth neu dod a niwed i fobl. 
Maen't yn credu fod rhaid i'r eneidiau yma naill ai gael ei addoli 
neu lluddio. Drwy offrymu aberthau, gweddïau, dawnsfeydd a defodau 
eraill, maent yn gobeithio y can't eu bendithio mewn bywyd a'i 
hamddiffyn rhag niewd. Mae nifer o'r traddodiadau wedi diflannu, ond ma na nifer dal i fynd yn gryf- sydd yn rhoi synnwyr arbennig o 
hunaniaeth a lliniach i drigolion yr ardal. 

Tydi marwolaeth ddim yn ran o fywyd dani’n cydnabod yn ormodol yn y gorllewin- ag angladdau ar y cyfan yn ddiwrnodau distaw a emosiynol yn gyfle i adlewyrchu ar fywyd y person a rhannu atgofion. Bore Iau olaf Mehefin, efo 4 kilo o siwgr yn fy mag, fe es i i angladd o wahanol yma yn Tana Toraja!

P1200488.JPG

Ma Toraja yn fyd enwog am ei seremoniau angladdol, sydd efo drysau agored i bwy bynnag sydd am ymuno i ffarwelio a’r marw (am bris cwpwl o fagiau o siwgr neu bacedi o sigarets fel rhodd…). Mi oedd o’n brofiad bythgofiadwy a hollol bizzare i fod yn rhan o angladd y ddynes ‘ma, oedd wedi bod yn farw ers dwy flynedd. Ma cyrff y meirw yn aros yn nhai y teulu am fyny at 7 mlynedd i roi amser i’r teulu baratoi’r seremoni a gwahodd yr holl deulu o ben ban Indonesia. Mi oedd yr animsist hefyd yn credu, tan y seremnoi , fod enaid y person yn aros efo nhw- ag fod y person yn ‘sal’ yn hytrach na marw. Er mai cristnogaeth yw’r crefydd yma heddiw, mae credoa’r animists dal yn glwm iawn efo’r angladdau- ag unwaith mae’r corff wedi ei symud fel fod y pen yn gwynebu’r De, ag unwaith mae oleiaf 24 byffalo wedi ei lladd a dega o foch- dyna pryd fydd y marw yn medru gadael y byd yma, i’w nefoedd bydol nhw,  sydd yn bodoli yn y byd naturiol, ag yn gartref i bawb marw o Toraja.

P1200528.JPG

Pan gyraheddo ni ar gefn y motorbeic fyny allt llychlyd, mi oedd y lle yn fwrlwm efo ceir, bobl, motor beics, moch yn sgrechian ac wedi ei clymu i famboo gerfydd eu coesa a stondinau. Mi oedd na lais yn gweiddi rhywbeth drwy riw ‘loud speaker’ a tua tri math o gerddoriaeth yn chwara. Yn cerdded mewn i leoliad yr angladd, o dan faner efo llun o’r hen ddynas arno, ei henw yn fawr mewn llythrennau coch, a’r dyddiadau 24-29/06/2017- mi oedd o fel cerdded mewn i wÿl. Mi oedd fy mren i’n cael ‘sensory overload‘- rhwng yr holl bethau oedd yn mynd mlaen, a Daud fy ngeid yn egluro i fi pwy oedd pwy a be oedd be a oll oni’n medru gweld oedd moch byw yn bob man yn chwythu am wynt, ei tafoda nhw’n llyfu’r llawr am ddwr a hogla gwaed. A wedyn y prosesiwn, yn ddynion mewn du a merchaid mewn dillad bob lliw, yn cerdded lawr i riw adeilad bamboo dros dro- yr arch yn uchel ar un ochr a pen dau fyffalo ar lawr a’r mwd yn waedlyd lle oedd eu cyrff nhw wedi sefyll cwpwl oriau yn gynt ar yr ochr arall.

P1200512.JPG

Ges i fy ngwahodd i eistedd lawr wedyn, efo’r gwesteion eraill (oedd mewn booths wedi ei rhifo lawr un ochr o’r maes) a geshi goffi mor ddu a’r nos ond odd mor felys a’r haf a bisgedi, a wedyn geshi ginio efo nhw! Mi oni’n falch bo ni wedi cael cinio cyn i ni fynd i grwydro tu ol y stondinau wedyn- lle weles i fwy nag oni eisiau.

P1200020.JPG
Ma faint o gyrn byffalo sydd gan deulu tu allan ei ty yn adlewyrchu ei sdatws cymdeithasol. 

Ar ol y cinio, es i i ddilyn fy nhrwyn, nath arwain fi i le oedd y dynion yn aberthu’r moch. Mi odd hi’n rhemp yno! Cyllill, perfeddi, gwaed, tân, coesau a pennau yn bob man, a darnau enfawr o gig yn cael ei cario o gwmpas mewn bagiau plastic, moch byw, moch marw, moch wedi eu tori yn haner, moch wedi eu llosgi, moch yn hanner marw- mi oni’n ffilmio, a tynnu lluniau am yn ail, ond prin yn medru credu’n llygaid- a’r hogla’n ddigon i godi pwys. Rol gwylio un mochyn yn cael ei rwygo ar agor a’r dyn yn defnyddio ei ddwy law fel lletwad i wagio bowlen y corff o’r gwaed mi nes i ddechra teimlo’n sal. Digon oedd digon! Dwi’n agored i brofiadau newydd, a dysgu am diwylliannau sydd yn wahanol i fy un i…. ond dyma di’r llinell dwi’n meddwl. Mi oni’n fud am weddill y dydd- ag efo neb i sgwrsio am dan y peth gyda’r nos- mi gymerodd hi gwpwl o oriau i fi gal fy awydd am fwyd nol!

P1200538.JPG

P1200578.JPG

P1200569.JPG

Yn cerdded nôl i’r gwesty fyny stryd dywyll ‘rol fi stumogi swpar, oni’n dechra hogla’r gwaed eto, a’r perfeddi mewn bagia plastic yn yr haul- oni’n dechra poeni mod i wedi’n effeithio go iawn gan y pnawn! Ond y bora trannoeth, yn cerdded run ffordd, mi oni’n gweld y pyllau o waed a’r perfeddi oni wedi bod yn cerdded heibio ag yn hogla’r noson gynt- mi oedd na angladd hogyn ifanc (13) oedd wedi marw ar gefn motor beic yr wythnos cynt wedi bod yn mynd mlaen yn y dydd- a gweddillion yr anifeiliaid gafodd ei aberthu ar ol yng nghanol y dref goncrit. Y hen draddodiadau a’r heddiw yn gorgyffwrdd, yn cyd fod- a finna’n dal fy ngwynt a bomio heibio yn fy fflip-fflops.

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s