Amsar dod adra a codi arfau.

Ma’r bora ola wedi cyraedd a’r haul wedi gwawrio ar ddiwedd y pump wythnos yma. Mai’n amser i bacio bob dim yn daclus a rhoi fy hyn mewn taxi i’r maes awyr yn Makassar. Ma mhen i yn llawn o atgofion a syniadau a’r hard-drive yn llawn o rushes a lluniau ond dwi’ ddim yn siwr sut dwi’n teimlo. Ma na gymaint wedi digwydd dros y mis(+) dywethaf ‘ma a tydwi heb chwartar brosesu yr holl beth eto. Dyma’r elfen o deithio ar ben fy hun dwi heb fwynhau- fod gen i neb i rannu y profiada efo- neb i chwerthin efo am y troeon trwstan a’r oriau o ddisgwyl- a neb i ryfeddu efo ar y profiadau annisgwyl, anhygoel sydd wedi digwydd o dro i dro ar hyd y daith. Ma’r holl beth yn bownsian ogwmps yn fy mhen i- yr ofn greddfol oni’n teimlo ar adega, y cyffro, y rhyddhad, y ffocws, a’r trio gneud synnwyr o’r gymysgfa gymleth o wleidyddiaeth, crefydd, corruption a dinistr sydd yn sylfaen i holl adeiladwaith y genedl ‘ma.

 

Screenshot 2017-06-16 16.42.15.png

Ma wedi bod yn antur ma hyny yn sicr- ag yn agoriad llygaid i sgêl y dinistr oherwydd digoedwigo ar gyfer planhigfeydd Palm Oil. Dwi’n gobeithio mod i wedi gneud cyfiawnder efo’r bobl dwi wedi eu cyfarfod sydd yn cael ei effeithio bob dydd gan y diwydiant, a mod i hefyd wedi llwyddo dal hud a lledrith y goedwig law ar ffilm- cyn iddo ddiflannu am byth. Dwi’n poeni mymryn mod i heb- er fod gen i 500 GB o ffilm …. ond falla fod hyn yn deimlad o ofn ma bob filmmaker yn ei gael ar ryw bwynt wrth wneud dogfen. Ond, ma un peth yn sicr, mond megis dechrau mae’r gwaith- ag am bob awr o ffilmio, dwi’n siwr y byddai bump yn y sdafell olygu!

P1160601

Mae’r goedwig yn diflannu heddiw, mae’r ffermwyr yn colli eu tir rwan, ma’r planhigfeydd yn gwenwyno’r afonydd wrth i’r fertilizers lifo o’r tir i’r dwr bob diwrnod ers i fi gyraedd a ma’r frwydyr yma yn real- i warchod y goedwig, i warchod y bobl- a sicrhau fod y cenedlaethau i ddod yn cyd-fyw ar blaned efo’r holl greaduriad anhygoel dwi wedi ei weld yn fy amser yma ag bron yn bwysicach na bob dim, i gadw’r angor yma yn ei lle wrth i ni wynebu newidiadau enfawr yn yr hinsawdd.

P1160782.JPG

O’r holl bethau sydd yno i frwydro dros, (plastic yn y môr, plant yn gweithio mewn chwareli i fwyngloddio metalau in iphones ni, ffracio, drillio olew mewn manau pristine o’r byd…etc etc etc) dyma’r frwydyr dwi wedi ei phigo i godi arfau, codi llais a codi dau fys ar y gyfundrefn- a deud ma’r drefn angan newid. A ma’r drefn angan newid o fewn y ddegawd- yn fy ngenhedlaeth i. Mi fasa fo’n haws isda lawr, a deutha fy hun, ‘be di’r pwynt?’ ‘pa wahaniaeth alla i neud?’- ond ma gneud hyny yn rhoi yr pwer yn nwylo y gyfundrefn heb iddy nhw ei haeddu fo- ag yn chwara lawr ar bwysigrwydd bob un unigolyn sydd yn gwneud fyny ein cenedl ni. Efallai ma’i bobl fwyaf cyfoethog y byd sy’n rheoli bob gwlad, yn gwneud y penderfyniadau allweddol (America a Prydain yn anwybyddu eu cyfrifoldebau i warchod yr amgylchedd yn dragywydd) , yn berchen y busensau mwyaf ag yn gwneud i ni deimlo fel fod ein llais ni mo’r bywrus a tician watch mewn gig Metallica- ond, wrth droi’r system ar ei phen- ni sydd efo’r pwer go iawn, tydy nhw jes ddim eisiau i ni wybod hyny. NI sy’n prynnu eu cynnyrch NHW, NI sy’n pledleisio NHW mewn, NI sy’n cadw ei’n cyflogau NI yn eu bancia NHW, NI sy’n penderfynnu lle dani’n siopa, be dani’n brynnu, sut dani’n byw a sut fyd dani eisiau. Ni, bob un ohona ni sy’n gwneud fyny y boblogaeth.

P1170267

Ers erioed, mae gwleidyddiaeth wedi cael ei beintio efo’r brwsh llwyd- diflas- borning- i hen bobl efo gwallt brith a’r geeks mewn sbecdols. Pam? Wel, dwi’n tybio oherywdd ei fod o’n haws i’r gyfundrefn wnued fel fyna nhw pan tydi’r genedl ddim yn cymeryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Pan ma’r agwedd, ‘pa wahaniaeth neith fy mhledliais i?’ yn fyw, pan ma trigolion ein tai cyngor ni a’r sawl sydd yn gweithio ar isafswm cyflog yn teimlo’n hollol ddi-rym. Ma’r agwedd yma wedi ei waldio mewn i’n sylfaeni ni: tydio ddim yn ganrif eto ers i ferchaid gael pleidlais yn Prydain. Tydi’r teimlad mewnol o ‘tydi’n llais i ddim yn bwysig’ ddim yn ddi-sail, ma cip olwg sydyn ar hanes gwleidyddiaeth Prydain yn brawf fod y gyfundrefn drwy ei chyfriaethau wedi bod yn rhoi yr holl bwer gwleidyddol yn nwylo y dynion gwyn cyfoethog ers erioed heb newid llawer yn y gan mlynedd dywethaf. Ond drychwch be sy’n digwydd pan ma bobl ifanc yn dechrau cymeryd sylw o’ wleidyddiaeth (Elecsiwn 2017) ! Pan ma’r symudiad o’r “many not the few” yn rhoi ei dîn mewn gêr a codi ei socs…. NEWID! Be dwi’n trio ddeud ydi ma newid yn bosib, a ma’n bosib creu newid yn sydyn, ma jes angan cael bobl ar ddeffro ag yn codi ei lleisiau- fel cor!

P1140113

Doni ddim yn bwriadu i’r blog ola o Indonesia fod yn gymaint o rant, ond dwi’n sylweddoli pa mor flin ma be dwi wedi ei weld yma wedi gneud fi. Cyfalafiaeth a thrachwant am bwer a pres ar ei waetha, gwladychiaeth gudd a diystyru hynodrwydd coedwigoedd hynafol a’i holl fioamrywiaeth ar amrantiad. Dim cwmniau o Indonesia sydd yn gyrru’r dinsitr yma- ond cwmniau o Korea, Singapore, America, Lloegr, y byd a’i bobl gyfoethog efo’u byisdd budr yn y pot mel.

Felly, ffarwel o’r genedl sydd yn bodoli heb yr holl betha dani’n cyfrif fel pethau angenrheidiol ar gyfer goroesi adra- alcohol, llaeth, bacon, papur toilet, dwr poeth… dwi’n edrych mlaen i weld Mam, Dad , Gwyn, Taid a Gel a pawb adra, i gal cawod a peint ar wal yr Angylsi nos Sadwrn nesaf (Lows) a toddi mewn i brysurdeb diwylliannol Gwyl Arall heb ddega o bobl yn gweiddi “HELLO MISTAR”, “WHERE YOU FROM?” , “WHERE YOU GOING?”, arnai!!!

P1160793.JPG

(Diolch am ddarllen a diolch i Golwg , Y Stamp a BBC Cymru Fyw am gyhoeddi fy ngwaith i pan oni yma.)

 

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s